John 7:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y caisiesont y ddal ha ef, ac ny roy nep ’law arnaw, can na ðaeth es ai y awr ef etwa.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ceisiasant, gan hyny, Ei ddal Ef; ac ni osododd neb ei law Arno, canys ni ddaethai Ei awr etto.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly ceisient ei ddal, ond ni roddodd neb ei law arno, canys ni ddaethai ei adeg ef eto.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddigwyddodd hyn dyma nhw'n ceisio'i ddal, ond lwyddodd neb i'w gyffwrdd, am fod ei amser iawn ddim wedi dod eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny ceisiasant ei ddal, ond ni osododd neb law arno, oherwydd nid oedd ei awr ef wedi dod eto.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny yr oeddynt yn ceisio ei ddal ef; eto, ni osododd neb law arno ef, canys nid oedd ei Awr ef eto wedi dyfod.