John 7:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Clywet o’r Pharisaieit bot y bopul yn murmuro y pethe hyn am danaw, a’ d anvon o’r Pharisaieit a’r Archoffeirieit swyddogion y’w ddal h a ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywodd y Pharisheaid y dyrfa yn murmur y pethau hyn am Dano; a danfonodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid swyddogion, fel y dalient Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Clywodd y Phariseaid y dyrfa yn murmur hyn amdano, ac anfonodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid swyddogion i’w ddal.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a'r Phariseaid a'r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i'w ddal ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth y Phariseaid i wybod fod sibrydion fel hyn yn mynd o gwmpas. Felly dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn anfon swyddogion diogelwch o'r deml i'w arestio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd y Phariseaid y dyrfa'n sibrwd y pethau hyn amdano. Ac fe anfonodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid swyddogion i'w ddal ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y Phariseaid a glywsant y dyrfa yn sibrwd y pethau hyn am dano; a'r Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid a anfonasant is‐swyddogion, fel y dalient ef.