John 7:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywedent yr Iuddaeon yn y plith yhunain, I b’le bydd i hwn vyned, val na chaffom ef? Ai myned a wna ef at yr ei ’sy ar wascar ymplith y Groecieit, a dyscu ’r Groeciait?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon wrth eu gilydd, I ba le y mae Hwn ar fedr myned, gan mai nyni na chawn Ef? Ai at y rhai ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae Efe ar fedr myned a dysgu’r Groegiaid?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly meddai’r Iddewon wrth ei gilydd: “I ba le y mae hwn am fyned, na ddeuwn ni o hyd iddo? A ydyw am fyned at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid a dysgu’r Groegiaid?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu'r Groegiaid?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai'r arweinwyr Iddewig, “I ble mae'r dyn yma'n bwriadu mynd os fyddwn ni ddim yn gallu dod o hyd iddo? Ydy e'n mynd at ein pobl ni sy'n byw ar wasgar mewn gwledydd eraill, a dysgu pobl y gwledydd hynny?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai'r Iddewon wrth ei gilydd, "I ble mae hwn ar fynd, fel na bydd i ni gael hyd iddo? A yw ar fynd, tybed, at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid, a dysgu'r Groegiaid?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, I ba le y mae hwn a'r fedr myned, fel na chaffom ni ef? Ai at y rhai sydd ar wasgar yn mhlith y Groegiaid y mae ar fedr myned, a dysgu y Groegiaid?