John 7:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa ymadrodd yw hwn a ddyvawt ef, Chvvi a’m caisiwch, ac ny’m cefwch? ac lle’r yw‐vi, ny ellw‐chwi ddyvot?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth yw’r gair hwn a ddywedodd Efe, “Ceisiwch Fi, ac ni’m cewch,” a “Lle yr wyf Fi, chwychwi ni ellwch ddyfod?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth ydyw’r gair hwn a ddywedodd, — ‘Byddwch yn fy ngheisio ac ni’m cewch, a’r lle y byddaf i ni ellwch chwi ddyfod’?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth mae'n e'n ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chi'n methu dod i ble bydda i’?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth yw ystyr y gair hwn a ddywedodd, 'Fe chwiliwch amdanaf fi, ond ni chewch hyd i mi; lle yr wyf fi, ni allwch chwi ddod'?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr wyf fi, ni ellwch ddyfod?