John 7:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yn y dydd mawr dywethaf o’r wyl, y savawdd yr Iesu ac y llefawdd, gan ddywedyt, A’s sycheda nep, dauet ata vi, ac yfet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar y dydd diweddaf, y dydd mawr o’r wyl, safodd yr Iesu, a gwaeddodd, gan ddywedyd, Os oes ar neb syched, deued Attaf, ac yfed.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar y dydd diwethaf, diwrnod mawr yr ŵyl, safodd yr Iesu a gwaeddodd gan ddywedyd: “Os oes syched ar neb, deued ataf i ac yfed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o'r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu'n sefyll ac yn cyhoeddi'n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar ddydd olaf yr u373?yl, y dydd mawr, safodd Iesu a chyhoeddi'n uchel: "Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar y dydd diweddaf, dydd mawr yr Wyl, yr Iesu a safodd i fyny, ac a lefodd allan, gan ddywedyd, Os sycheda neb, deued ataf fi, ac yfed.