John 7:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(Hyn a ddyvawt ef a’m yr Yspryt yr hwn a dd erbynynt yr ei a gredent yndo ef: can ys yd hynn ny d oedd doniæ yr Yspryt glan vvedy ei rhoddi o bleit na ðaroedd eto gogoneddu yr Iesu)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn a ddywedodd Efe am yr Yspryd, yr Hwn yr oedd y rhai a gredasant Ynddo ar fedr Ei dderbyn; canys nid oedd yr Yspryd wedi ei roddi etto, am nad oedd yr Iesu etto wedi Ei ogoneddu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyn a ddywedodd am yr ysbryd a dderbyniai’r rhai a gredodd ynddo ef, canys nid oedd Ysbryd eto, am na ogoneddwyd yr Iesu hyd yn hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi'r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi ei anrhydeddu.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sn yr oedd am yr Ysbryd yr oedd y rhai a gredodd ynddo ef yn mynd i'w dderbyn. Oherwydd nid oedd yr Ysbryd ganddynt eto, am nad oedd Iesu wedi cael ei ogoneddu eto.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hyn a ddywedodd efe am yr Yspryd, yr hwn yr oedd y rhai a gredent ynddo ef ar fedr ei dderbyn canys hyd yn hyn nid oedd Yspryd Glân [wedi ei roddi;] canys yr Iesu ni ogoneddasid eto.