John 7:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can nad oes nep a wna ddim yn y d d irgel ac ynt ef yn caisiaw bot yn gyhoedd edic. A’s y pethe hyn a wnai, eglura dyhun i’r byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid yw neb yn gwneuthur dim yn y dirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn y dirgel, ag yntau yn ceisio bod yn gyhoedd. Os wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, dangos dy hun yn amlwg i’r byd,”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i'r byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does neb sydd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn gweithredu o'r golwg. Gan dy fod yn gallu gwneud y pethau hyn, dangos dy hun i bawb!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid yw neb sy'n ceisio bod yn yr amlwg yn gwneud dim yn y dirgel. Os wyt yn gwneud y pethau hyn, dangos dy hun i'r byd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yn ceisio i fod ei hun yn gyhoedd: os wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i'r byd.