John 7:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ereill a ddywedesont, Hwn yw’r Christ: a’r ei a ddywedent, Ac a ddaw ’r Christ o’r Galilaia?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eraill a ddywedasant, Hwn yw’r Crist. Ond rhai a ddywedasant, Nage, canys ai o Galilea y mae Crist yn dyfod?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd eraill: “Hwn yw’r Eneiniog,” ond medd eraill: “Ai o Galilea y daw’r Eneiniog?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dal i ofyn, “Sut all y Meseia ddod o Galilea?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai eraill, "Hwn yw'r Meseia." Ond meddai rhai, "Does bosibl mai o Galilea y mae'r Meseia yn dod?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eraill a ddywedasant, Hwn yw y Crist Ond rhai a ddywedasant, Beth! A ydyw y Crist yn dyfod allan o Galilea?