John 7:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any ddywait yr Scrythur ’lan may o had Dauid, ac o dref Beth‐lechem, lle ydd oedd Dauid y dawr’r Christ?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Onid yw’r Ysgrythyr wedi dweud mai o had Dafydd, ac o Bethlehem, y pentref lle yr oedd Dafydd, y mae’r Crist yn dyfod?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Onid yw’r ysgrythur yn dywedyd mai o had Dafydd ac o Fethlehem, y dref lle yr oedd Dafydd, y daw’r Eneiniog?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu y Brenin Dafydd, ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid yw'r Ysgrythur yn dweud mai o linach Dafydd ac o Fethlehem, y pentref lle'r oedd Dafydd yn byw, y daw'r Meseia?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ai ni ddywedodd yr Ysgrythyr, mai o hâd Dafydd o Bethlehem y dref lle y bu Dafydd, y mae y Crist yn dyfod?