John 7:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd ymryson ym‐plith y popul oy bleit ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ymraniad, gan hyny, a wnaed yn y dyrfa o’i blegid Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly aeth yn ddwyblaid yn y dyrfa o’i achos.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o'i blegid ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly roedd y dyrfa wedi eu rhannu — rhai o'i blaid ac eraill yn ei erbyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly bu ymraniad ymhlith y dyrfa o'i achos ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny dygwyddodd ymraniad yn mhlith y dyrfa o'i achos ef.