John 7:49 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y werin hyn, a’r nyd edwyn y Ddeðyf, ynt vellticedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr y dyrfa hon, yr hon ni ŵyr y Gyfraith, melldigedig ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond am y dorf hon nad yw’n gwybod y gyfraith, y maent dan felltith.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nac oes! Dim ond y werin ddwl yma sy'n gwybod dim byd am y Gyfraith — ac maen nhw dan felltith beth bynnag!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y dyrfa yma nad yw'n gwybod dim am y Gyfraith, dan felltith y maent."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y dyrfa hon nad yw yn gwybod y Gyfraith, melldigedig ydynt.