John 7:50 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedyt o Nicodemus wrthynt, (yr hwn a ddaethei at yr Iesu o hyd nos ac oedd vn o hanynt.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd Nicodemus wrthynt (yr hwn a ddaeth Atto o’r blaen, ac yntau yn un o honynt),
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Nicodemus wrthynt (a ddaethai ato cyn hynny) ag yntau’n un ohonynt:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Nicodemus yno ar y pryd (y dyn oedd wedi mynd at Iesu'n gynharach), a gofynnodd,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Nicodemus, y dyn oedd wedi dod ato o'r blaen, yn un ohonynt; meddai ef wrthynt,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Nicodemus yn dywedyd wrthynt hwy, (yr hwn a ddaeth ato ef o'r blaen, ac oedd un o honynt),