John 7:51 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A varn ein Deddyf ni neb un nes nag yddi yn gyntaf ei glywet, a’ gwybot pa beth a wnaeth ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A ydyw ein Cyfraith yn barnu dyn oni chlywo yn gyntaf ganddo, a gwybod pa beth a wnaeth efe?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“A ydyw ein cyfraith ni’n barnu dyn heb yn gyntaf wrando arno a gwybod pa beth y mae’n ei wneuthur?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth efe?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ydy'n Cyfraith ni yn condemnio pobl heb roi gwrandawiad teg iddyn nhw gyntaf er mwyn darganfod y ffeithiau?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"A yw ein Cyfraith ni yn barnu rhywun heb roi gwrandawiad iddo yn gyntaf, a chael gwybod beth y mae'n ei wneud?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A ydyw ein Cyfraith ni yn barnu y dyn, oddi eithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod pa beth y mae yn ei wneyd?