John 7:52 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wy theu a atepesont ac a ddywedesont, wrthaw Yw‐ti the hefyd o’r Galilaia? Chwilia a’ gwyl: can ys o’r Galilaia ny chyfyt vn Prophwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebasant, a dywedasant wrtho, A thydi ai o Galilea yr wyt? Chwilia a gwel mai o Galilea nid oes prophwyd yn cyfodi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebasant a dywedasant wrtho: “Nid wyt tithau hefyd o Galilea, a wyt ti? Chwilia a gwêl, nad o Galilea y cyfyd proffwyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd o Galilea.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Medden nhw wrtho “Wyt ti'n dod o Galilea hefyd? Edrych di i mewn i'r peth, dydy proffwydi ddim yn dod o Galilea!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant ef, "A wyt tithau hefyd yn dod o Galilea? Chwilia'r Ysgrythurau, a chei weld nad yw proffwyd byth yn codi o Galilea."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A wyt tithau hefyd o Galilea? Chwilia a gwel, nad oes un proffwyd yn cyfod o Galileia.