John 8:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy i’r Iesu ym dderchafel, ac eb i dd o weled nep, namyn y wreic, ef a dyvawt wrthei, Ha wreic, p’le mae dy gyhuddwyr? a varnawð nep di yn euawc?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ymsythu, yr Iesu a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y maent? Oni fu i neb dy gondemnio di?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ymunionodd yr Iesu, a heb weled neb ond y wraig, dywedodd wrthi: “Wreigdda, ym mha le y maent hwy, dy gyhuddwyr? Oni chondemniodd neb di?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu wedi ymunioni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymsythodd Iesu a gofyn iddi, "Wraig, ble maent? Onid oes neb wedi dy gondemnio?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu wedi ymunioni, ac yn gweled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Pa le y mae y rhai hyny oeddynt dy gyhuddwyr di? Oni chondemniodd neb di?