John 8:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno drachefn y dyvawd yr Iesu wrthynt, can ddywedyt, Mi vi yw goleuni y byt: yr vn a’m dilyno vi, ny rodia yn y tywyllwc h, eithr e gaiff ’oleuni y bywyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trachefn, gan hyny, yr Iesu a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw goleuni’r byd: yr hwn sydd yn Fy nghanlyn, ni rodia ddim yn y tywyllwch, eithr bydd a chanddo oleuni’r bywyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly siaradodd yr Iesu wrthynt drachefn a dywedyd: “Myfi yw goleuni’r byd. Ni rodia neb sy’n fy nghanlyn i, yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni’r bywyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni'r byd ydwyf fi: yr hwn a'm dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni'r bywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan roedd Iesu'n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy'n fy nilyn i olau i'w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna llefarodd Iesu wrthynt eto. "Myfi yw goleuni'r byd," meddai. "Ni bydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Drachefn gan hyny y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw Goleuni y byd: yr hwn a'm dylyno i, ni rodia yn y Tywyllwch, eithr efe a gaiff Oleuni y Bywyd.