John 8:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atepawdd ac a ddyvawt wrthynt, Cy testolaethwyf o hano vy h un, y mae vy‐testoliaeth i yn gy wir; can ys‐gwn o b’le y daethym ac y b’le ydd af: a’ chwi ny wyddoch o b’le y daethym’ n ac y b’le ydd af.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd yr Iesu a dywedodd wrthynt, Er mai Myfi a dystiolaethaf am Danaf Fy hun, gwir yw Fy nhystiolaeth, canys gwn o ba le y daethum, ac i ba le y ciliaf: ond chwychwi ni wyddoch o ba le y daethum, nac i ba le y ciliaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Hyd yn oed os wyf i’n tystio amdanaf fy hun, gwir yw fy nhystiolaeth i, am fy mod yn gwybod o ba le y deuthum ac i ba le yr wyf yn myned, ond ni wyddoch chwi o ba le yr wyf yn dyfod nac i ba le yr wyf yn myned.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Hyd yn oed os ydw i'n tystio ar fy rhan fy hun, mae'r dystiolaeth yna'n ddilys. Dw i'n gwybod o ble dw i wedi dod ac i ble dw i'n mynd. Ond does gynnoch chi ddim syniad o ble dw i wedi dod nac i ble dw i'n mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu hwy, "Er mai myfi sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth yn wir am fy mod yn gwybod o ble y deuthum ac i ble'r wyf yn mynd. Ond ni wyddoch chwi o ble'r wyf yn dod nac i ble'r wyf yn mynd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyd y nod os wyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hun, gwir yw fy nhystiolaeth i; canys mi a wn o ba le y daethum, ac i ba le yr wyf yn myned ymaith: chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf yn dyfod, nac i ba le yr wyf yn myned ymaith.