John 8:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s mi a varn, y varn veu vi ysy gy wir: can nad wyf yn vnic, eithyr mi a’r Tat, yr vn a’m d anvonawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os barnu a wnaf Fi, Fy marn sydd wir; canys nid yn unig yr wyf, eithr Myfi, ac yr Hwn a’m danfonodd, sef y Tad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hyd yn oed os wyf yn barnu, y mae fy marn i’n gywir, oherwydd nid fy hunan yr ydwyf, ond myfi a’r hwn a’m hanfonodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyf fi yn unig, ond myfi a'r Tad yr hwn a'm hanfonodd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan dw i'n barnu, dw i'n dyfarnu'n gywir, am fy mod i ddim yn barnu ar fy mhen fy hun. Mae'r Tad sydd wedi fy anfon i yn barnu gyda mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac os byddaf yn barnu y mae'r farn a roddaf yn ddilys, oherwydd nid myfi yn unig sy'n barnu, ond myfi a'r Tad a'm hanfonodd i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac hyd y nod os wyf fi yn barnu, fy marn i sydd wirioneddol, canys nid wyf fi wrthyf fy hun, ond myfi a'r Tâd yr hwn a'm hanfonodd i.