John 8:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi yw ’r vn a destolaethaf am dana vy vn, a’r Tat a’m d anvonawdd i, a destiolaetha a’m danaf i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi yw’r Hwn sy’n tystiolaethu am Danaf Fy hun, a thystiolaethu am Danaf y mae’r Hwn a’m danfonodd, sef y Tad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Myfi sydd yn tystio amdanaf fy hun, a thystia’r hwn a’m hanfonodd i, y tad, amdanaf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi yw'r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun; ac y mae'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd i, yn tystiolaethu amdanaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i fy hun yn rhoi tystiolaeth, a'r Tad ydy'r tyst arall, yr un sydd wedi fy anfon i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Myfi yw'r un sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun, ac y mae'r Tad a'm hanfonodd i hefyd yn tystiolaethu amdanaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Myfi yw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fy hun, ac y mae y Tâd yr hwn a'm hanfonodd i yn tystiolaethu am danaf fi.