John 8:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywed e sont wrthaw, P’le y mae dy Dat? Atepawdd yr Iesu, Ac ny ’m adwaenoch vi, na’m Tat. Pe ’s adwenesech vi, ys adwawaenesoch vy‐Tat hefyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Pa le y mae Dy Dad? Attebodd yr Iesu, Nid adwaenoch na Myfi, na’m Tad: ped adnabuasech Fi, Fy Nhad hefyd a adnabuasech.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddent hwy felly wrtho: “Ym mha le y mae dy dad?” Atebodd Iesu: “Nid ydych yn fy adnabod i na’m tad. Pe baech yn fy adnabod i, byddech yn adnabod fy nhad hefyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na'm Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ble mae dy dad di?” medden nhw. “Dych chi ddim wir yn gwybod pwy ydw i,” atebodd Iesu, “nac yn nabod fy Nhad chwaith. Tasech chi'n gwybod pwy ydw i, byddech chi'n nabod fy Nhad i hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddent wrtho, "Ble mae dy Dad di?" Atebodd Iesu, "Nid ydych yn fy adnabod i na'm Tad; pe baech yn fy adnabod i, byddech yn adnabod fy Nhad hefyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dâd di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na'm Tâd i: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhâd i hefyd.