John 8:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’r borae ðyð e ddaeth drachefyn ir Tēpl, a’r oll popl a ðaeth at aw, ac ef a eisteddawdd y lawr, ac y dyscawdd h wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ynghyda’r wawr, daeth drachefn i’r deml, a’r holl bobl a ddaeth Atto; ac wedi eistedd o Hono, dysgodd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yn fore aeth drachefn i’r deml, ac yr oedd yr holl bobl yn dyfod ato, ac eisteddodd yntau a dechreu eu dysgu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddaeth drachefn y bore i'r deml; a'r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a'u dysgodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan wawriodd hi y bore wedyn, roedd Iesu yn ôl yng nghwrt y deml. Dyma dyrfa yn casglu o'i gwmpas, ac eisteddodd Iesu i'w dysgu nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y bore bach daeth eto i'r deml, ac yr oedd y bobl i gyd yn dod ato. Wedi iddo eistedd a dechrau eu dysgu,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chyd â'r wawr efe a ddaeth drachefn i'r Deml, a'r holl bobl a ddaethant ato ef; ac efe a eisteddodd, ac a'u dysgodd hwynt.