John 8:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y geiriae hyn a lavarawdd yr Iesu yn y tresor va, ac ef yn ei dyscu yn y Templ, ac ny d ymavlodd neb yndo: can na ddaethei eto y awr ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr ymadroddion hyn a lefarodd Efe yn y drysorfa, pan yn dysgu yn y deml; ac ni ddaliodd neb Ef, am na ddaethai Ei awr etto.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y geiriau hyn a ddywedodd yn y trysordy wrth ddysgu yn y deml. Ond ni ddaliodd neb ef am na ddaethai ei adeg ef eto.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd hyn pan oedd yn dysgu yn y deml wrth ymyl y blychau lle roedd pobl yn rhoi eu harian i'r drysorfa. Ond wnaeth neb ei ddal, am fod ei amser iawn ddim wedi dod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llefarodd y geiriau hyn yn y trysordy, wrth ddysgu yn y deml. Ond ni afaelodd neb ynddo, oherwydd nid oedd ei awr wedi dod eto.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y geiriau hyn a lefarodd efe wrth y Drysorfa, wrth ddysgu yn y Deml: ac ni ddaliodd neb ef, canys nid oedd ei Awr ef eto wedi dyfod.