John 8:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvawd yr Iesu drachefyn wrthynt, Mi vi af ymaith, a’ chvvi a’m caisiwch, ac a vyddwch veirw yn eich pechodae. Lle ydd vi, ny ellw‐chwi ddyvot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y dywedodd drachefn wrthynt, Myfi wyf yn cilio, a cheisiwch Fi, ac yn eich pechod y byddwch feirw: lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd wrthynt wedyn: “Yr wyf i’n myned, a byddwch yn chwilio amdanaf, a byddwch feirw yn eich pechod. Lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a'm ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Iesu wrthyn nhw dro arall, “Dw i'n mynd i ffwrdd. Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn marw yn eich pechod. Dych chi ddim yn gallu dod ble dw i'n mynd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthynt wedyn, "Yr wyf fi'n ymadael chwi. Fe chwiliwch amdanaf fi, ond byddwch farw yn eich pechod. Lle'r wyf fi'n mynd, ni allwch chwi ddod."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Efe a ddywedodd gan hyny wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a'm ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned ymaith ni ellwch chwi ddyfod.