John 8:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywedent yr Iuddaion, A ladd ef y h un: can iddo ddywedyt, Lle ydd a vi, ny ellw‐chwi ddyvot?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon, A ladd Efe Ei hun, gan Ei fod yn dweud, “Lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iddewon felly: “Tybed ei fod am ei ladd ei hun pan ddywed, ‘Lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod’?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth hyn i'r arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy e'n mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam mae'n dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw i'n mynd’?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai'r Iddewon felly, "A yw'n mynd i'w ladd ei hun, gan ei fod yn dweud, 'Lle'r wyf fi'n mynd, ni allwch chwi ddod'?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny dywedodd yr Iuddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned ymaith, ni ellwch chwi ddyfod.