John 8:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywed e sont vvy wrthaw, Pwy yw ti? A’r Iesu a ddyvawt wrthynt, Sef y peth a ddywedeis wrthych o’r dechreuat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y dywedasant Wrtho, Tydi, pwy wyt? Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Yr hyn a ddywedais wrthych hyd yn oed o’r dechreuad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddent hwy felly wrtho: “Pwy wyt ti?” Medd yr Iesu wrthynt: “Paham yr wyf i hyd yn oed yn siarad â chwi o gwbl?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o'r dechreuad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wedi ei ddweud o'r dechrau,” atebodd Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynasant iddo felly, "Pwy wyt ti?" Atebodd Iesu hwy, "Yr wyf o'r dechrau yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedasant gan hyny wrtho ef, Pwy wyt ti? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn hanfodol yr hyn yr wyf hefyd yn ei lefaru wrthych.