John 8:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvawd yr Iesu wrthynt, Gwedy y derchavoch Vap y dyn, yno y gwybyddoch mai mi vi yw ef, ac na d wyf’ yn gwneuthur dim o hano vy vn, eithyr mal im dyscawdd y Tat, velly ydd wyf yn llavaru y pethe hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y dywedodd yr Iesu, Pan ddyrchafoch Fab y Dyn, yna y gwybyddwch mai Myfi yw Efe, ac o Honof Fy hun nad wyf yn gwneuthur dim; eithr fel y dysgodd Fy Nhad I, y pethau hyn yr wyf yn eu llefaru.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu felly: “Pan ddyrchefwch fab y dyn, yna y gwybyddwch fy mod i, ac nad wyf yn gwneuthur dim ohonof fy hun, ond fel y dysgodd y tad fi, dyna’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun; ond megis y dysgodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dwedodd Iesu, “Pan byddwch wedi fy nghodi i, Mab y Dyn, i fyny, dyna pryd byddwch chi'n gwybod mai fi ydy e, ac nad ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth mae'r Tad wedi ei ddysgu i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly dywedodd Iesu wrthynt, "Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw, ac nad wyf yn gwneud dim ohonof fy hun, ond fy mod yn dweud yr union bethau y mae'r Tad wedi eu dysgu imi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny y dywedodd yr Iesu, Pan y dyrchafoch chwi Fab y Dyn, yna y deuwch i wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim o honof fy hun, ond megys y dysgodd y Tâd fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn.