John 8:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr vn am d anvonawdd i, ysy ’gyd a mi: ny adawdd y Tat vi yn vnic, can ys i mi wneuthur bop amser y pethae sy dda gantho ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr Hwn a’m danfonodd, ynghyda Mi y mae; ni adawodd Fi yn unig, canys y pethau sydd foddlawn Ganddo, yr wyf Fi yn eu gwneuthur bob amser.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae’r hwn a’m hanfonodd i gyda mi. Ni adawodd fi wrthyf fy hunan, canys yr wyf i yn gwneuthur bob amser y pethau sydd wrth ei fodd ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a'm hanfonodd i sydd gyda myfi: ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth sy'n ei blesio.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac y mae'r hwn a'm hanfonodd i gyda mi; nid yw wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, oherwydd yr wyf bob amser yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn a'm hanfonodd i sydd gyd â mi: ni adawodd efe fi wrthyf fy hun: canys yr wyf yn gwneuthur bob amser y pethau sydd foddlawn ganddo ef.