John 8:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Atepesont y ddaw, Had Abraham yd ym ni, ac ny wasanaethesam ni neb erioed: paam y dywedy di, Eich gwneir chvvi yn vvyr rhyddion?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebasant Iddo, Had Abraham ydym, ac i neb ni fuom gaeth erioed. Pa fodd yr wyt Ti yn dweud, Rhyddion fyddwch?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebasant iddo: “Had Abraham ydym ni, ac ni buom gaethion i neb erioed. Sut yr wyt ti’n dywedyd, ‘Chwi ddeuwch yn rhyddion’?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a atebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dŷn ni'n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti'n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n cael bod yn rhydd’?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant ef, "Plant Abraham ydym ni, ac ni buom erioed yn gaethweision i neb. Sut y gelli di ddweud, 'Fe'ch gwneir yn rhyddion'?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwy a atebasant iddo, Hâd Abraham ydym ni, ac nid ydym erioed wedi bod mewn caethiwed i neb: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?