John 8:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Atepawdd yr Iesu yðynt Yn wir, yn wir y dywedaf y‐chwi, Mai pwy pynac a wna bechot, ys y was i’r pechat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Pob un y sy’n gwneuthur pechod, caethwas yw i bechod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iesu iddynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae pob un sy’n gwneuthur pechod yn gaethwas i bechod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy'n pechu wedi ei gaethiwo gan bechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu hwy, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pob un sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn gaeth‐was pechod.