John 8:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi wn mai had Abraham yd ych, eithyr yð ych yn caisiaw vy lladd i, can nad oes lle ir gair meu vi ynochwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwn mai “had Abraham” ydych; eithr ceisio Fy lladd I yr ydych, gan nad yw Fy ngair a lle iddo ynoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwn mai had Abraham ydych, ond yr ydych yn ceisio fy lladd, am nad yw fy ngair i yn cerdded ynoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a wn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi'n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i'n ei ddweud go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwy'n gwybod mai plant Abraham ydych. Ond yr ydych yn ceisio fy lladd i am nad yw fy ngair i yn cael lle ynoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mi a wn mai hâd Abraham ydych chwi: ond yr ydych yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy Ngair i yn enill tir ynoch chwi.