John 8:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi vi a lavaraf yr hyn a welais y gyd a’m tat i: a’ chwi theu a wnewch yr hyn a welsoch y gyd a’ch tat chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau a welais I gyda’r Tad, yr wyf yn eu llefaru; a chwithau hefyd, y pethau a glywsoch gan eich tad, yr ydych yn eu gwneud.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y pethau a welais i gyda’r tad yr wyf yn eu dywedyd, ac felly gwnewch chwithau yr hyn a glywsoch gan y tad.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda'm Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda'ch tad chwithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n cyhoeddi beth dw i wedi ei weld gyda'r Tad. Dych chi'n gwneud beth mae'ch tad chi'n ei ddweud wrthoch chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi'n siarad am y pethau yr wyf wedi eu gweld gyda'm Tad, ac yr ydych chwi'n gwneud y pethau a glywsoch gan eich tad."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf fi yn llefaru y pethau yr wyf wedi eu gweled gyd â fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn gwneuthur y pethau a glywsoch gyd â eich Tâd.