John 8:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ynawr y ceisiwch vy llað i, gwr a ddyvawt i chwi ’r gwirionedd, yr hyn a glywais y gan Dduw: hyn ny wnaeth Abrahā.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. Ond yn awr ceisio Fy lladd I yr ydych, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd yr hwn a glywais gan Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond yn awr yr ydych yn ceisio fy lladd, dyn sydd wedi dywedyd y gwir wrthych a glywais gan Dduw. Dyma beth na wnaeth Abraham.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma chi, yn benderfynol o'm lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddi'r gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud pethau felly!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dyma chwi yn awr yn ceisio fy lladd i, dyn sydd wedi llefaru wrthych y gwirionedd a glywais gan Dduw. Ni wnaeth Abraham mo hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yn awr yr ydych yn ceisio fy lladd i, dyn yr hwn sydd wedi llefaru wrthych y Gwirionedd, yr hwn a glywais gyd â Duw: hyn ni wnaeth Abraham.