John 8:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwi ’sy yn gwneuthu’r gwei t hredoedd y ch tat chwi. Yno y dywed e sont wrthaw, Ny ’anet ni o ’odnep: y ni y mae vn tat, ’se f Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hyn ni wnaeth Abraham. Chwi ydych yn gwneuthur gweithredoedd eich tad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi.” Meddent hwy wrtho: “Nid o buteindra y ganwyd ni; un tad sydd gennym, Duw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, gwneud y pethau mae'ch tad chi'n eu gwneud dych chi.” “Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydy'r unig Dad sydd gynnon ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwneud gweithredoedd eich tad eich hunain yr ydych chwi." "Nid plant puteindra mohonom ni," meddent wrtho. "Un Tad sydd gennym, sef Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr ydych yn gwneuthur gweithredoedd eich tâd chwi. Dywedasant wrtho, Nid o buteindra y'n ganwyd ni: un Tâd sydd genym ni, Duw.