John 8:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny y dyvawt yr Iesu wrthynt, Pe Duw vyddei eich Tat, yno y carech vi: can ys mi a ddeilliais, ac a ddeuthym o ywrth Dduw, ac ny’s daethym o hano vy h un, eithyr ef a’m d anvonawdd i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedasant Wrtho, Nyni, nid trwy butteindra y’n cenhedlwyd. Un Tad sydd genym, sef Duw. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Pe Duw fyddai eich Tad, carech Fi, canys Myfi, oddiwrth Dduw y daethum allan, ac yr wyf wedi dyfod,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu wrthynt: “Pe bai Duw yn dad i chwi, fe’m carech i, oherwydd o Dduw y deuthum allan, a dyma fi; ac nid ohonof fy hunan y deuthum, ond efô a’m hanfonodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a'm carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a'm hanfonodd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi'n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrthynt, "Petai Duw yn dad i chwi, byddech yn fy ngharu i, oherwydd oddi wrth Dduw y deuthum allan a dod yma. Nid wyf wedi dod ohonof fy hun, ond ef a'm hanfonodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe Duw fyddai eich Tâd chwi, chwi a'm carech i: canys o Dduw y daethum allan ac yr wyf bresenol: canys nid ydwyf wedi dyfod ychwaith o honof fy hun, ond efe a'm hanfonodd i.