John 8:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwi chvvi y sy dd o’ ch tad y diavol, a’ chwantae eich tad a wnewch. Ef e vu laddwr dyn or dechreu at, ac ny d aro s awdd yn y gwirionedd: can nad oes gwirionedd yndaw. Pa bryd bynac y dywait ef cellwydd o hanaw ehun y dyweit: can ys celwyddoc yw, a ’r tad iddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwychwi, o’ch tad, y diafol, yr ydych; a thrachwantau eich tad a ewyllysiwch eu gwneuthur. Efe, lleiddiad dyn yr oedd o’r dechreuad, ac yn y gwirionedd ni safodd, gan nad oes gwirionedd ynddo. Pan lefaro gelwydd, o’r eiddo ei hun y llefara, canys celwyddwr yw, ac yn dad iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O’ch tad, y diafol, yr ydych chwi ac yn dewis gwneuthur nwydau eich tad. Llofrudd oedd hwnnw o’r dechreu ac ni saif yn y gwir am nad oes wir ynddo. Pan ddywed gelwydd, siarad o’i natur ei hun y mae, oherwydd celwyddog ydyw ef, a thad iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O'ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o'r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi'n fodlon gwneud beth mae'ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o'r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i'r gwir ynddo. Pan mae'n dweud celwydd, mae'n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e, a thad pob celwydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Plant ydych chwi i'ch tad, y diafol, ac yr ydych 'ch bryd ar gyflawni dymuniadau eich tad. Llofrudd oedd ef o'r cychwyn; nid yw'n sefyll yn y gwirionedd, oherwydd nid oes dim gwirionedd ynddo. Pan fydd yn dweud celwydd, datguddio'i natur ei hun y mae, oherwydd un celwyddog yw ef, a thad pob celwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr ydych o'ch tâd, y Diafol; a chwantau eich tâd y mynwch chwi eu gwneuthur. Llofrudd oedd efe o'r dechreuad: ac ni safodd yn gadarn yn y Gwirionedd, oblegyd nid oes Gwirionedd ynddo ef: pan y mae un yn llefaru celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn llefaru; canys ei dâd ef hefyd sydd gelwyddwr.