John 8:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ Chvvithe can i mi ddywedyt y gwirionedd ywch’, ny ’m credwch. Yr Euangel y pempet Sul yn y Grawys.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond Myfi, gan mai y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydych yn Fy nghredu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond â minnau’n dywedyd y gwir, ni chredwch fi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i'n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr wyf fi'n dweud y gwirionedd, ac am hynny nid ydych yn fy nghredu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond myfi am fy mod yn dywedyd y Gwirionedd, nid ydych yn fy nghredu.