John 8:46 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Pwy ’n hanoch a hona pechat arnaf? ac a’s ytwyf yn dywedyt y gwir, pa am na chredwch vi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pwy o honoch a’m hargyhoedda am bechod? Os y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, paham nad ydych chwi yn Fy nghredu?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pwy ohonoch a’m prawf i’n euog o bechod? Os y gwir yr ydwyf yn ei ddywedyd, paham na chredwch chwi fi?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy ohonoch a'm hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oes unrhyw un ohonoch chi'n gallu profi fy mod i'n euog o bechu? Felly pam dych chi'n gwrthod credu pan dw i'n dweud y gwir?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy ohonoch chwi sydd am brofi fy mod i'n euog o bechod? Os wyf yn dweud y gwir, pam nad ydych chwi yn fy nghredu?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pwy o honoch a'm profa yn euog o bechod? Os wyf yn dywedyd Gwirionedd, paham nad ydych yn fy nghredu i?