John 8:48 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr atepawdd yr Iuddaeon ac y dywedent, wrtho, Pa nad da y dywedwn mae Samareit wyt, a’ bot cythraul genyt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd yr Iwddewon a dywedasant Wrtho, Onid da y dywedwn mai Shamariad wyt Ti, a chythraul sydd Genyt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iddewon a dywedasant wrtho: “Onid da y dywedwn ni mai Samariad wyt ti a bod gennyt gythraul?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni'n iawn. Mae cythraul ynot ti!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yr Iddewon ef, "Onid ydym ni'n iawn wrth ddweud, 'Samariad wyt ti, ac y mae cythraul ynot'?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iuddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Onid teg yr ydym yn dywedyd mai Samariad wyt ti, a bod genyt gythraul?