John 8:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ Moysen yn y Ddeddyf a’ orchymynawdd i ni, bot llapyddiaw y cyfryw ’rei: a’ pha beth a ddywedy di?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn y Gyfraith Mosheh a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw wragedd. Tydi, gan hyny, pa beth a ddywedi yn ei chylch?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn awr, yn y gyfraith, gorchmynnodd Moesen inni labyddio merched o’r fath; beth a ddywedi di felly?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio'r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y Gyfraith mae Moses yn dweud fod gwragedd o'r fath i gael eu llabyddio i farwolaeth gyda cherrig. Beth wyt ti'n ei ddweud am y mater?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchmynnodd Moses yn y Gyfraith i ni labyddio gwragedd o'r fath. Beth sydd gennyt ti i'w ddweud?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr, Moses yn y Gyfraith a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw: pa beth gan hyny yr wyt ti yn ei ddywedyd?