John 8:50 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nid wyf i yn ceisiaw vygogoniant vyhun: y mae a ei cais ac a varn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond Myfi nid wyf yn ceisio Fy ngogoniant; y mae a’i cais, ac a farn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nid wyf yn ceisio fy ngogoniant fy hun; y mae un sydd yn ceisio ac yn barnu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a'i cais, ac a farn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy'n ei geisio, a fe ydy'r un sy'n barnu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid wyf fi'n ceisio fy ngogoniant fy hun, ond y mae un sydd yn ei geisio, ac ef sy'n barnu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant: y mae un sydd yn ceisio ac yn barnu.