John 8:52 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvod yr Iuddeon wrthaw, Yr awrhon y gwyddam vot cythrael genyt. Abraham a vu varw, a’r Prophwyti, a’ thi a ddywedy. A chaidw vn vy‐gair i, ny phrawf ef vyth angae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd Wrtho a wnaeth yr Iwddewon, Yn awr y gwyddom fod cythraul Genyt. Abraham a fu farw, ac y prophwydi; a Thydi a ddywedi, “Os Fy ngair a geidw dyn, nid archwaetha farwolaeth yn dragywydd.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai’r Iddewon wrtho: “Yn awr gwyddom fod gennyt gythraul. Bu farw Abraham a’r proffwydi hefyd, ac yr wyt ti’n dywedyd, ‘os ceidw neb fy ngair i, ni phrofa farwolaeth byth yn dragywydd.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a'r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddwedodd hyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi, “Mae'n amlwg fod cythraul ynot ti! Buodd Abraham farw, a'r proffwydi hefyd, a dyma ti yn honni y bydd y rhai sy'n credu beth rwyt ti'n ddweud ddim yn marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai'r Iddewon wrtho, "Yr ydym yn gwybod yn awr fod cythraul ynot. Bu Abraham farw, a'r proffwydi hefyd, a dyma ti'n dweud, 'Os bydd rhywun yn cadw fy ngair i, ni chaiff brofi blas marwolaeth byth.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iuddewon a ddywedasant wrtho, Yn awr yr ydym wedi dyfod i wybod fod genyt gythraul. Bu Abraham farw, a'r Proffwydi: ac meddi di, Os ceidw neb fy Ngair i, ni phrofa efe farwolaeth yn dragywydd.