John 8:54 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atepawdd, A’s mi a’m gogoneddaf vyhun, vy‐gogoniant nyd yw ddim: vy‐Tad yw’r hwnn am gogonedda vi, yr hwn a ddywedw chwi vot yn Dduw y chwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd yr Iesu, Os wyf Fi yn gogoneddu Fy hun, Fy ngogoniant nid yw ddim; Fy Nhad yw’r Hwn sydd yn Fy ngogoneddu, am yr Hwn chwi a ddywedwch mai eich Duw yw, ac nid adwaenoch Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu: “Os wyf i yn fy ngogoneddu fy hunan, nid yw fy ngogoniant i ddim. Fy nhad i, hwnnw sydd yn fy ngogoneddu, yr hwn y dywedwch chwi amdano, ‘Ein Duw ydyw’;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd, Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw'r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Os dw i'n canmol fy hun, dydy'r clod yna'n golygu dim byd. Fy Nhad sy'n fy nghanmol i, yr un dych chi'n hawlio ei fod yn Dduw i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu, "Os fy ngogoneddu fy hun yr wyf fi, nid yw fy ngogoniant yn ddim. Fy Nhad sydd yn fy ngogoneddu, yr un yr ydych chwi'n dweud amdano, 'Ef yw ein Duw ni.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a atebodd, Pe byddai i mi ogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhâd yw yr hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd am dano, mai eich Duw chwi ydyw.