John 8:55 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nyd adnabuoch chwi ef: anid mi y adwaen ef, ac a dywedwn nyd adwaenwn, mi vyddwn gelwyddoc val chwithae: eithyr mi y adwaen ef, ac wyf yn cadw ei ’air.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond Myfi a’i hadwaen Ef, ac os dywedaf nad adwaen Ef, byddaf debyg i chwi, yn gelwyddwr: eithr Ei adnabod yr wyf, a’i air Ef yr wyf yn ei gadw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac eto yr ydych heb ei adnabod, ond adwaen i ef, ac os dywedaf nas adwaen ef, byddaf fel chwi yn gelwyddog. Ond adwaen i ef, ac yr wyf yn cadw ei air.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a'i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dych chi ddim wedi dechrau dod i'w nabod; dw i yn ei nabod e'n iawn. Petawn i'n dweud mod i ddim yn ei nabod e, byddwn innau'n gelwyddog fel chi. Dw i yn ei nabod e ac yn gwneud beth mae'n ei ddangos i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ydych yn ei adnabod, ond yr wyf fi'n ei adnabod. Pe bawn yn dweud nad wyf yn ei adnabod, byddwn yn gelwyddog fel chwithau. Ond yr wyf yn ei adnabod, ac yr wyf yn cadw ei air ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eto nid ydych wedi ei adnabod ef, ond yr wyf fi yn ei adwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen i ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei Air ef.