John 8:57 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iuddaeon wrthaw. Nyd wyt eto ddec blwydd a da’ugain oed, ac a weles ti Abraham?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon Wrtho, Deng mlwydd a deugain nid oes etto Genyt, ac Abraham a welaist!
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai’r Iddewon felly wrtho: “Nid wyt ti eto’n hanner can mlwydd, ac a welaist ti Abraham?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dwyt ti ddim yn hanner cant eto!” meddai'r arweinwyr Iddewig wrtho, “Wyt ti'n honni dy fod di wedi gweld Abraham?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai'r Iddewon wrtho, "Nid wyt ti'n hanner cant oed eto. A wyt ti wedi gweld Abraham?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant wrtho, Nid wyt ti eto ddengmlwydd a deugain oed, ac a ydwyt ti wedi gweled Abraham?