John 8:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn a ddywedent y’w demto ef, val y cahent devnydd, y gyhuðaw ef, A’r Iesu a grymoð i lawr, ac ai vys a scrivenawð ar y ddaiar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn a ddywedasant gan Ei demtio, fel y byddai ganddynt yr hyn i’w gyhuddo Ef o hono. A’r Iesu, wedi ymgrymmu tua’r llawr, a ’sgrifenodd â’i fys ar y ddaear.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedyd hyn yr oeddynt i’w brofi er mwyn cael lle i’w gyhuddo. Ond plygodd yr Iesu i lawr a dechreuodd ysgrifennu ar y ddaear â’i fys.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua'r llawr, a ysgrifennodd â'i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedden nhw'n defnyddio'r cwestiwn fel trap, er mwyn cael sail i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.) Ond dyma Iesu'n plygu i lawr a dechrau ysgrifennu gyda'i fys yn y llwch ar lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dweud hyn yr oeddent er mwyn rhoi prawf arno, a chael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn. Plygodd Iesu i lawr ac ysgrifennu ar y llawr 'i fys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hyn a ddywedasant, gan ei demtio ef, fel y cawsent beth i'w gyhuddo ef o'i blegyd. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu i lawr, a ysgrifenodd â'i fys ar y ddaear.