John 8:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thra oeddent yn parau ymofyn ac ef, yr ymderchawð ef, ac y dyvawt wrthynt, Yr vn o hanoch ys id yn ddipechot, tav‐led y maen cyntaf atei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth barhau o honynt yn gofyn Iddo, ymsythodd a dywedodd wrthynt, Y dibechod o honoch, bydded y cyntaf i daflu carreg atti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond wrth eu bod yn dal i’w holi, ymunionodd a dywedodd wrthynt: “Y dibechod ohonoch, tafled hwnnw yn gyntaf garreg ati.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wrth iddyn nhw ddal ati i bwyso arno i ateb, edrychodd i fyny a dweud wrthyn nhw, “Os oes un ohonoch chi ddynion ddim wedi pechu, taflwch chi'r garreg gyntaf ati hi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gan eu bod yn dal ati i ofyn y cwestiwn iddo, ymsythodd ac meddai wrthynt, "Pwy bynnag ohonoch sy'n ddibechod, gadewch i hwnnw fod yn gyntaf i daflu carreg ati."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond fel yr oeddynt yn parhâu yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod o honoch, tafled fel y cyntaf y garreg ati.