John 8:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glywsant hyny, can ei cydwybot yhunain yn ei cyhaðaw, yr aethant allan bop vn ac vn, gan ddechrae o’r ei hynaf yd yr ei diwethaf: a’r Iesu a adawyt yn vnic, a’r wreic yn sefyll yn y cenol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy wedi clywed hyn, a aethant allan o un i un, gan ddechreu o’r hynaf hyd yr olaf; a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn y canol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyma hwythau wedi ei glywed [ac yn euog yn eu cydwybod] yn myned allan y naill ar ôl y llall, gan ddechreu gyda’r rhai hynaf, a gadawyd yr Iesu ei hunan, a’r wraig yn sefyll yn y canol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o'r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a'r wraig yn sefyll yn y canol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl clywed beth ddwedodd e, dyma'r dynion yn gadael. Y rhai hynaf aeth gyntaf, a'r lleill yn dilyn, nes oedd neb ar ôl ond Iesu, a'r wraig yn dal i sefyll o'i flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dechreuodd y rhai oedd wedi clywed fynd allan, un ar l y llall, y rhai hynaf yn gyntaf, nes i Iesu gael ei adael ar ei ben ei hun, a'r wraig yno yn y canol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy, pan glywsant, [wedi eu hargyhoeddi gan eu cydwybod], a aethant allan o un i un, gan ddechreu o'r hynaf hyd yr olaf; a gadawyd yr Iesu yn unig, a'r wraig yn sefyll yn y canol.