John 9:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef a atepawdd, ac a ddyvot, Y r d vn a elwir Iesu, a wnaeth gist bridd, ac a irawdd vy llygait, ac a ddyvawt wrthyf. Cerdda y lyn Siloam, ac ym olch. Ac y aethym ac a ym olchais, ac a gefais vy‐golwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd efe, Y dyn a elwir Iesu, clai a wnaeth Efe, ac enneiniodd fy llygaid i, a dywedodd wrthyf, “Dos i Shiloam ac ymolch.” Wedi myned, gan hyny, ac wedi ymolchi, fy ngolwg a gefais.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yntau: “Y dyn a’i enw Iesu a wnaeth laid ac a irodd fy llygaid ac a ddywedodd wrthyf: ‘Dos i Siloam ac ymolch’; felly wedi myned ac ymolchi, mi ddeuthum i weled.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma'r dyn maen nhw'n ei alw'n Iesu yn gwneud mwd,” meddai, “ac yn ei rwbio ar fy llygaid. Yna dwedodd wrtho i am fynd i Siloam i ymolchi. A dyna wnes i. Ar ôl i mi ymolchi roeddwn i'n gallu gweld!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau, "Y dyn a elwir Iesu a wnaeth glai ac iro fy llygaid a dweud wrthyf, 'Dos i Siloam i ymolchi.' Ac wedi imi fynd yno ac ymolchi, cefais fy ngolwg."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a atebodd, Y dyn a elwir Iesu a wnaeth glai, ac a eneiniodd fy llygaid i, ac a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith i Siloam, ac ymolch. Wedi myned ymaith gan hyny ac ymolch mi a dderbyniais fy ngolwg.