John 9:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno trachefyn yr ymofynnei ’r Pharisaieit hefyt ac ef, pa vodd y cawsei ef ei olwc. Ac ef a ddyvawt wrthynt. Ef a ddodes bridd gist ar vy llygaid, ac mi a ym olcheis, a’ mi g welaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trachefn, gan hyny, y gofynodd y Pharisheaid iddo pa fodd y cawsai ei olwg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd Efe ar fy llygaid i, ac ymolchais, a gweled yr wyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dyma’r Phariseaid hefyd yn ei holi wedyn sut y daeth i weled, ac meddai yntau wrthynt: “Llaid a roes ar fy llygaid i ac ymolchais ac yr wyf yn gweled.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r Phariseaid hefyd yn dechrau holi'r dyn sut oedd e'n gallu gweld. Atebodd y dyn, “Rhoddodd fwd ar fy llygaid, es i ymolchi, a dw i'n gweld.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma'r Phariseaid yn gofyn iddo eto sut yr oedd wedi cael ei olwg. Ac meddai wrthynt, "Rhoddodd glai ar fy llygaid ac ymolchais, a dyma fi'n gweld."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny y Phariseaid hefyd oeddynt yn gofyn iddo drachefn, pa fodd y derbyniodd ei olwg. Ond efe a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled.