John 9:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywedynt yr ei or Pharisaieit, Ni d han yw ’r dyn hwn o Dduw, can na chaidw ef y dydd Sabbath. Ereill a ddywedynt. Pa vodd y ga i ll dyn ac ef yn pechatur us, wneythu’r cyfryw wyrthiae? Ac ydd oedd ancydvot yn y plith wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y dywedodd rhai o’r Pharisheaid, Nid yw y dyn hwn o Dduw, gan mai y Sabbath ni cheidw. Ac eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y fath arwyddion?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd rhai o’r Phariseaid, felly: “Nid ydyw’r dyn hwn oddiwrth Dduw ag yntau heb fod yn cadw y Sabath.” Medd eraill, “Sut y gall dyn pechadurus wneuthur arwyddion o’r fath?” Ac aeth yn ddwyblaid yn eu plith,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna rhai o'r Phariseaid a ddywedasant, Nid yw'r dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw'r Saboth. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai rhai o'r Phariseaid, “All e ddim bod yn negesydd Duw, am ei fod e ddim yn cadw rheolau'r Saboth.” Ond roedd eraill yn dweud, “Sut mae rhywun sy'n bechadur cyffredin yn gallu gwneud y fath arwyddion gwyrthiol?” Felly roedden nhw'n anghytuno â'i gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly dywedodd rhai o'r Phariseaid, "Nid yw'r dyn hwn o Dduw; nid yw'n cadw'r Saboth." Ond meddai eraill, "Sut y gall dyn sy'n bechadur wneud y fath arwyddion?" Ac yr oedd ymraniad yn eu plith,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny dywedodd rhai o'r Phariseaid, Nid yw y dyn hwn oddiwrth Dduw, canys nid yw yn cadw y Sabbath. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymraniad yn eu plith.